Arwyddwch ein llythyr i geisio achub Barclays Bangor

 

 

Mae Banc Barclays wedi cyhoeddi y bydd banc Bangr yn cau ar y 10fed o Fai.  Mae hyn yn andros o ergyd i'r ddinas.

Rydym wedi ysgrifennu llythyr agored i Barclays yn gofyn iddy nhw ail-gysidro'r penderfyniad yma.  Os gwelwch yn dda, os hoffwch ymuno a'r alwad i gadw Banc Barclays Bangor ar agor, rhowch eich enw i'r llythyr drwy'r linc isod.

 

"Annwyl Barclays,

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn ysgrifennu i fynegi ein pryder ynghylch cau cangen Bangor, Gwynedd.

Mae'n adnodd hanfodol i lawer, nid yn unig ym Mangor, ond mewn ardal ddaearyddol eang ac mae trigolion, busnesau lleol, masnachwyr marchnad a myfyrwyr (lleol a rhyngwladol) yn dibynnu ar yr adnodd pwysig hwn. Mae'n achubiaeth i'r rhai sydd angen gweithio gydag arian parod, y rhai na allant gael mynediad at wasanaethau ar-lein, a'r rhai sydd angen cymorth wyneb yn wyneb. 

Ers i ganghennau Barclays yn Llangefni, Caernarfon a Phorthmadog gau, mae cangen Bangor wedi gwasanaethu ardal eang, a dyma'r unig gangen stryd fawr ar ôl yng Ngwynedd a Môn.  Bydd colli’r gangen hon yn golygu nid yn unig y bydd trigolion Bangor yn wynebu taith gron o 40 milltir i gael mynediad at wasanaethau cangen, ond bydd y rhai ar Ynys Môn neu Orllewin Gwynedd yn wynebu llawer mwy.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn ysgrifennu i ofyn i chi ailystyried y penderfyniad hwn, a chadw cangen Bangor, Gwynedd, ar agor. 

Gyda diolch,"

Cliciwch YMA i lofnodi'r ddeiseb!


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Ymgyrchoedd 2024-02-12 15:53:17 +0000

Ymuna â'r ymgyrch!

Helpa i sicrhau llais cryf dros holl gymunedau Bangor Aberconwy yn San Steffan. Ymuna efo ymgyrch Catrin isod: