Catrin Wager

Catrin Wager yw ymgeisydd Plaid Cymru dros Fangor Aberconwy i'r etholiad cyffredinol nesaf.  

Mae'n wleidydd ac ymgyrchydd profiadol hefo'i gwreiddiau mewn gweithredu'n gymunedol, ac mae ganddi dan i ymladd dros ddyfodol gwell. 

Hanes personol

Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae Catrin wedi byw yn Nyffryn Ogwen ers dros 20 mlynedd.  Mae'n fam i ddau o blant, ac yn ymgyrchydd brwd dros degwch cymdeithasol a'r amgylchedd.  

Cefndir proffesiynol

Mae Catrin wedi gweithio yn bennaf yn y trydydd sector, mewn meysydd addysg a chyfathrebu, gan fod wedi gweithio i fudiadau yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Phartneriaeth Ogwen.  Bellach mae hi'n gweithio i gefnogi cymunedau i sefydlu Llyfrgelloedd Pethau; adnodd cymunedol sy'n ymateb ymarferol i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng costau byw.  

Hanes gwleidyddol

Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu gwleidyddol ar faterion o'r argyfwng amgylcheddol i hawliau ffoaduriaid, camodd Catrin i fyd gwleidyddiaeth ffurfiol nol yn 2017, pan cafodd ei ethol fel Cyngorydd ward Menai, Bangor ar Gyngor Gwynedd.  Gweithredodd ar faterion megis cael gwared ar arwyddion 'To Let' ym Mangor a sefydlu grŵp i wyrddio a harddu'r ddinas, a daeth a chynigion llwyddiannus i'r cyngor yn galw am ddarparu nwyddau mislif am ddim mewn ysgolion, a datgan argyfwng hinsawdd.

Yn 2019 cafodd Catrin ei phenodi i'r cabinet, yn gyfrifol am feysydd yn cynnwys gwastraff ac ail-gylchu, priffyrdd, a llifogydd.  Arweiniodd ar gynlluniau atal llifogydd mawr, megis prosiect i adnewyddu amddiffynfeydd mor Hirael, a gweithredodd newidiadau yn unol â'i blaenoriaethau gwleidyddol, megis cyflwyno newidiadau i drefn cynnal ffyrdd i hyrwyddo blodau a bywyd gwyllt, ennill grant i gefnogi sefydlu oergelloedd cymunedol a chynlluniau rhannu bwyd ar draws y sir, a sefydlu timau tacluso ardal ni. 

Cafodd Catrin ei dewis fel ymgeisydd dros dro Plaid Cymru Arfon i etholiad San Steffan yn dilyn cyhoeddiad ymddeoliad Hywel Williams yn yr etholiad nesaf, a bu iddi gael ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru Bangor Aberconwy ar gyfer yr etholaeth newydd yng Ngorffennaf 2023.  

 

 

 

 

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aaron Wynne
    published this page 2023-08-24 18:42:25 +0100

Ymuna â'r ymgyrch!

Helpa i sicrhau llais cryf dros holl gymunedau Bangor Aberconwy yn San Steffan. Ymuna efo ymgyrch Catrin isod: