Busnesau Bangor Aberconwy yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau mawreddog y ‘Countryside Alliance’

“Dewch i ni gefnogi ein busnesau lleol gwych, a’u helpu i ennill ‘Oscars gwledig’” meddai ymgeisydd Plaid Cymru, Catrin Wager.

Mae dau fusnes o etholaeth newydd Bangor Aberconwy wedi cyrraedd rownd terfynol gwobrau mawreddog y Countryside Alliance. Mae Jones a’I Fab Butchers, Llanrwst a thafarn Y Llew Gwyn, Cerrigydrudion yn cystadlu am y gwobrau. Wedi’u galw’n ‘Oscars Gwledig’, mae gwobrau’r Countryside Alliance yn dathlu busnesau lleol sy’n mynd y filltir ychwanegol. Y cyhoedd sydd yn enwebu busnesau, ac fel y dywed y wefan:

 

“Gwobrau’r Countryside Alliance yw ein dathliad blynyddol o fusnesau gwledig sy’n mynd gam ymhellach, gan gefnogi eu heconomi leol a bod yn arwyr yn eu cymuned. Mae’n fuddugoliaeth ac yn glod enfawr i bob busnes sy’n cael ei enwebu ar gyfer Gwobr y Countryside Alliance ac mae’n dangos yr effaith rydych chi’n ei gael yn eich cymuned leol.”

 

Dywedodd Llion Jones o Jones a’i Fab “Roedd gymaint o fraint cael fy enwebu ar gyfer y wobr uchel ei pharch hon. Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd ein henwau ymlaen am hyn.”

 

“Rydym wedi bod yn gweithredu ers 1991, ac mae cynnyrch o safon a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser wedi bod wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym yn gweithio gyda ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol i sicrhau bod ein siop yn arddangosiad o’r bwyd gwych sydd gennym yma yng Ngogledd Cymru, ac rydym mor ddiolchgar bod ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi hynny. Fel busnes teuluol bach yng nghanol Llanrwst, mae hyn wir yn golygu cymaint.”

 

Yn ôl Catrin Wager, Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru ar gyfer Bangor Aberconwy:

 

“Mae’r ddau fusnes yn rownd derfynol y wobr hon yn fusnesau lleol gwych sy’n amlwg yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cymuned. O dafarn gymunedol Y Llew Gwyn, i’r cynnyrch o safon a werthir gan Jones a’i Fab – mae’r ddau yn dyst i’r busnesau gwledig anhygoel sydd gennym ym Mangor Aberconwy.

 

“Mae ffermwyr ym Mangor Aberconwy yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o safon uchel, a dyma’r union beth sydd ar gael yn Jones a’i Fab. Drwy brynu oddi wrth Llion a’i deulu, rydych yn cefnogi nid yn unig y siop ei hun, ond y ffermydd teuluol sy’n ffurfio asgwrn cefn ein heconomi wledig. Hefyd, wrth wneud hynny, rydych chi’n lleihau’r milltiroedd y mae eich bwyd yn teithio ac yn cadw’r gadwyn gyflenwi yn lleol.”

 

“Mae’r ffaith eu bod wedi cyrraedd rownd derfynol y wobr fawreddog hon yn dyst i ansawdd eu cynnyrch a’r gwasanaeth unigryw a gynigir gan y busnesau annibynnol gwych hwn. Mae hefyd yn dangos pa mor werthfawr ydyn nhw i’r gymuned leol.

 

“Byddwn yn annog pawb i fwrw pleidlais dros Jones a’i fab a’r Llew Gwyn. Dewch i ni ddathlu ein busnesau – a’u helpu i gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu – ac ennill!”

 

Mae pleidleisio yn agored i bawb, a bydd yn cau ddydd Sul 10 Chwefror. Pleidleisir trwy wefan y gwobrau - https://www.countryside-alliance.org/


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2024-02-07 11:28:08 +0000

Ymuna â'r ymgyrch!

Helpa i sicrhau llais cryf dros holl gymunedau Bangor Aberconwy yn San Steffan. Ymuna efo ymgyrch Catrin isod: