Mae Plaid Cymru wedi dewis Catrin Wager fel yr ymgeisydd dros Bangor Aberconwy yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Medda Catrin Wager;
"Diolch enfawr i aelodau etholaeth newydd Bangor Aberconwy am roi eu ffydd yndda’i fel eu hymgeisydd nesaf ar gyfer etholiad cyffredinol.
"Roedd ‘na ymgeiswyr gwych am yr enwebiad, sy’n destament i’r angerdd a’r egwyddorion cryfion sydd o fewn ein plaid. Roeddwn i’n teimlo balchder mawr o gael rhannu llwyfan efo dau mor arbennig â Paul a Lisa yng nghyfarfodydd dewis Llanrwst a Bangor.
"Mae’n fraint arbennig cael y cyfle i fynd â’r frwydr am gymdeithas decach, wyrddach a mwy cynhwysol ymlaen i etholiad cyffredinol. Diolch i chi am y cyfle i frwydro dros ddyfodol gwell i’n pobl a’n cymunedau. Ymlaen!"
Mae Catrin Wager yn gyn-gynghorydd dros Dinas Bangor ar Gyngor Gwynedd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter