Diogelu Dyfodol Meddygfa Betws y Coed

Ers i'r newyddion trist dorri fod meddygon meddygfa Betws y Coed yn dod a'u cytundeb i ben, mae eich tim Plaid Cymru lleol wedi bod yn brysur yn ceisio sicrhau dyfodol i'r feddygfa. 

Ers i'r newyddion trist dorri fod meddygon meddygfa Betws y Coed yn dod a'u cytundeb i ben, mae eich tim Plaid Cymru lleol wedi bod yn brysur yn ceisio sicrhau dyfodol i'r feddygfa. 

 

Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus ar y cyd â Llais, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a fynychodd. Cafwyd ymrwymiad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i barhau a'r feddygfa yn ddelfrydol drwy ddyfarnu cytundeb newydd, neu, os oes angen, drwy redeg y feddygfa eu hunain. 

 

Rydym yn falch o allu rhannu'r newyddion gyda chi bod diddordeb yng nghytundeb y feddygfa ac felly mae posib symud ymlaen i'r cam nesaf o'r broses. 

 

Bydd eich tim Plaid Cymru lleol yn parhau i gyfathrebu gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau dilyniant yn y gwasanaeth hanfodol yma. 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2024-02-01 14:25:54 +0000

Ymuna â'r ymgyrch!

Helpa i sicrhau llais cryf dros holl gymunedau Bangor Aberconwy yn San Steffan. Ymuna efo ymgyrch Catrin isod: