Gallai Ariannu Teg i Gymru achub ein gwasanaethau cyhoeddus’ meddai Ymgeisydd Plaid Cymru.

Mae Cynghorau Gogledd Cymru yn wynebu argyfwng ariannol. Yr wythnos hon cyhoeddodd Cynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd eu cyllidebau drafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 24/25. Mae pob un o'r tri awdurdod yn cynnig codiadau treth cyngor, tra hefyd yn edrych i  dorri gwasanaethau rheng flaen.

Mae Catrin Wager, ymgeisydd Plaid Cymru dros Fangor Aberconwny yn galw am ‘gyllido teg i Gymru’ a allai leddfu ychydig o’r pwysau yma.

 

Mae’n esbonio: “Mae trigolion ar draws Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych yn wynebu isafswm o gynnydd o 9% ar eu treth cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd mae cynghorau yn torri cyllid ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel ysgolion, llyfrgelloedd a chasgliadau biniau. .

“Mae setliad ariannol gwarthus gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau lleol yn ffafrio’r awdurdodau sy’n cael eu rhedeg gan Lafur yn Ne Cymru, ar draul cynghorau gwledig Gogledd Cymru.

“Mae Conwy a Gwynedd wedi cael eu taro’n arbennig o galed gyda cynnyd o dim ond 2% yn eu cyllid – yr isaf yng Nghymru.

“Ond ar ddiwedd y dydd” meddai Catrin, “San Steffan sy’n cadw llinynnau’r pwrs ac nid yw Cymru’n derbyn y cyllid sy’n ddyledus iddi. O Fformiwla Barnett hen ffasiwn ac aneffeithiol i ffars HS2, mae Cymru’n haeddu cyllid teg – a gallai cyllid teg achub ein gwasanaethau cyhoeddus, heb daro trigolion yn eu pocedi.

“Bydd Plaid Cymru bob amser yn mynnu tegwch i Gymru – dyna pam rydym yn gweithredu ac yn galw am adolygiad o fformiwla Barnett a phecyn cymorth brys.”

Ddoe (dydd Mercher 7 Chwefror), ysgrifennodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, at Ganghellor y Trysorlys.

Mae Plaid Cymru wedi gofyn i’r Trysorlys ymrwymo ar frys i ddarparu pecyn cymorth cyfatebol i’r hyn a gynigir i Ogledd Iwerddon i gefnogi cynghorau sir a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Pe bai pecyn o’r fath yn atgynhyrchu cynnig Gogledd Iwerddon fesul pen, byddai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn derbyn tua £5.4 biliwn.

Dywedodd Mr Lake y dylid diweddaru’r metrigau hen ffasiwn a ddefnyddiwyd i bennu dyraniad cyllid i Gymru, yn enwedig isafswm ariannu Cymru yn 2018, sy’n seiliedig ar ddata gan Gomisiwn Holtham 2010, a oedd yn dibynnu ar ddata o gyfrifiad 2001 – 23 mlynedd yn ôl.

Galwodd am adolygiad i asesu disodli fformiwla Barnett gyda “system newydd sy’n symud oddi wrth ariannu ad hoc ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a thuag at fframwaith sy’n darparu cyllid cyson, tryloyw a theg i Gymru”.

 

Fel y dywed Catrin Wager: “Ar hyn o bryd mae ein trigolion yn cael eu siomi gan y ddwy lywodraeth a rhaid inni geisio gwella’r sefyllfa. 

“Mae digartrefedd yng Ngwynedd wedi codi 35% ers 2018/19. Gofynnir i ysgolion yng Nghonwy ddod o hyd i doriadau o rhwng 6-10%. Dyma’r realiti llym ar lawr gwlad – a dyma pa fod  gwasanaethau lleol angen cael eu hariannu’n wael. Dyna pam fod y frwydr dros ariannu teg mor bwysig. Gallai ariannu teg gadw to uwch ben ein trigolion, a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant – mae honno’n frwydr na fydda i, na Phlaid Cymru, yn rhoi’r gorau iddi.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2024-02-08 14:11:43 +0000

Ymuna â'r ymgyrch!

Helpa i sicrhau llais cryf dros holl gymunedau Bangor Aberconwy yn San Steffan. Ymuna efo ymgyrch Catrin isod: